Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 10

Angharad Mair, Cyfarwyddwr Gweithredol, Tinopolis

Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy yn cynrychioli’r Mentrau Iaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Angharad Mair, Cyfarwyddwr Gweithredol, Tinopolis Cymru

·         Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu, Menter Iaith Conwy, yn cynrychioli Mentrau Iaith

 

3.

Papur(au) i'w nodi

3.1

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru.

 

3.2

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 19 Hydref 2017

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.40 - 10.55)

5.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Tinopolis Cymru i egluro mater a godwyd.

 

(10.55 - 11.25)

6.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau'n Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.