Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-09.30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020– 21 a chytunodd
arno yn amodol ar rai mân newidiadau. |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones AC a Huw Irranca-Davies AC. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Leanne Wood AC ar gyfer sesiwn y prynhawn. Dirprwyodd Delyth
Jewell AC a Joyce Watson ar eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
|
09.30-12.00) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12 Cyng Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Grŵp
Llafur CLlLC a Llefarydd CLlLC ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau
Mawr Cyng Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin,
Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC Cyng Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Arweinydd
Grŵp Ceidwadwyr CLlLC Cyng Ray Quant, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion,
Dirprwy Lywydd CLlLC Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Y
Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Grŵp Llafur CLlLC a
Llefarydd CLlLC ar Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr ·
Y
Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Arweinydd Grŵp
Plaid Cymru CLlLC ·
Y
Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Arweinydd Grŵp y
Ceidwadwyr CLlLC ·
Y
Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dirprwy Lywydd
CLlLC ·
Chris
Llywelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ·
Daniel
Hurford, Pennaeth Polisi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tystion i ddarparu
rhagor o astudiaethau achos ar y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol a phryd y
cafodd ei ddefnyddio’n effeithiol gan awdurdodau lleol Lloegr. |
|
(12.45-13.45) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 13 Rob Thomas,
Cadeirydd, SOLACE Cymru Michelle Morris,
Is-gadeirydd ac Arweinydd Portffolio’r Gweithlu, SOLACE Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Rob
Thomas, Cadeirydd SOLACE Cymru ·
Michelle
Morris, Is-gadeirydd ac Arweinydd Portffolio’r Gweithlu, SOLACE Cymru |
|
(13.45-14.45) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 14 Davina Fiore,
Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan: · Davina Fiore, Cyfreithwyr mewn Llywodraeth
Leol |
|
(14.45-14.50) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
|
Gohebiaeth gan y Cymdeithas Llywodraeth Leol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 6 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ynghylch y Bil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). |
||
Gohebiaeth gan Chris Highcock ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 14 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Chris Highcock ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru). |
||
Gohebiaeth gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd - 13 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio
sylweddau ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd. |
||
Gohebiaeth at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch ymateb i’r adroddiad ar fudd-daliadau yng Nghymru - 13 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.4a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch
yr ymateb i’r adroddiad ar fudd-daliadau yng Nghymru. |
||
Adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru - Gweinyddu nawdd cymdeithasol yng Nghymru: Tystiolaeth o ddiwygiadau posib - 14 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.5a Nododd
y Pwyllgor adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: Gweinyddu nawdd
cymdeithasol yng Nghymru - tystiolaeth am ddiwygiadau posibl: |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau - 13 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.6a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch
diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau. |
||
(14.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.50-15.00) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3, 4 a 5. |