Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30 - 11.00)

1.

Briffio technegol ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

 

(11.00 - 11.30)

2.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): ystyried y dull o graffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer gwaith craffu ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a chytunodd arno.

 

 

(11.45)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Oherwydd bod John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor, wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Cafodd Dawn Bowden ei henwebu gan Caroline Jones, ac fe’i hetholwyd yn briodol.

3.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

3.3 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Leanne Wood AC.

 

 

 

(11.45 - 13.00)

4.

Dilyniant i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - Sesiwn graffu gyda’r Gweinidog

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Clare Severn, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau

Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Steve Bryant, Cynghorydd Cynorthwyol Tân ac Achub

Steve Pomeroy, Pennaeth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

4.2 Cafodd y sesiwn hon ei gohirio a'i hail-drefnu ar gyfer dydd Iau 5 Rhagfyr.

 

 

(13.00 - 13.05)

5.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Gohebiaeth â'r Llywydd ynghylch amserlen Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 12 Tachwedd 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

·       5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â'r Llywydd ynghylch amserlen Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

 

5.2

Gohebiaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ynghylch adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol – 14 Tachwedd 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

·       5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ynghylch adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

 

(13.05)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

 

(13.05 - 13.20)

7.

Dilyniant i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - trafod y dystiolaeth

Cofnodion: