Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:45-10:00)

1.

Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru: Diweddariad ar weithgarwch ymgysylltu â dinasyddion, Rhys Jones, Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1a. Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y gyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan y tîm Ymgysylltu â Dinasyddion â phobl â phrofiad byw o gysgu ar y stryd.

 

(10:00-10:30)

2.

Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru: Brîff ar ymchwil i angen â blaenoriaeth a chysgu ar y stryd, Dr Helen Taylor, Cymrawd Academaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2a. Cafodd y Pwyllgor friff ar ymchwil a gynhaliwyd i angen â blaenoriaeth a chysgu ar y stryd.

 

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(10:30-12:00)

4.

Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

·       Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Adran Polisi Tai

·       Sarah Rhodes, Pennaeth y gangen Ddigartrefedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai

·       Sarah Rhodes, Pennaeth y Gangen Digartrefedd

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth bellach yn ymwneud ag ariannu prosiectau tai.

 

 

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Gohebiaeth at y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch yr ymchwiliad i Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ynghylch yr ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru.

 

5.2

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r prif chwip mewn perthynas â Deddf Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

5.3

Gohebiaeth at y Cadeirydd mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Cadeirydd mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel.

 

5.4

Gohebiaeth gan Llamau mewn perthynas â'r ymchwiliad i gysgu allan yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Llamau mewn perthynas â'r ymchwiliad i gysgu allan yng Nghymru.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(12:00-12:20)

7.

Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru: - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion: