Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Huw Irranca Davies AC a Leanne Wood AC.

 

 

(09:00-10:15)

2.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: adroddiad blynyddol a chyfrifon 2018/19

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr Gwella 

Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau.

 

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018/19 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:

·        Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

·        Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella

·        Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau.

 

     2.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i roi rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'r cynnydd yn nifer y cwynion yn erbyn meddygon teulu a deintyddion.

 

 

 

 

(10:15-10:20)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Gohebiaeth gan Lywodraeth yr Alban ynghylch Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth yr Alban ynghylch Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni'n well

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10:20-10:30)

5.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: adroddiad blynyddol a chyfrifon 2018/19 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ysgrifennu at yr Ombwdsmon i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.

 

 

 

(10:30-10:40)

6.

Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar yr Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar yr Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

 

(10:40-12:40)

7.

Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, yn amodol ar newidiadau.