Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/06/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. Hefyd, croesawodd y Cadeirydd Caroline Jones a Dawn Bowden i'w cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Carwyn Jones AC, Jenny Rathbone AC a Mohammad Asghar AC am eu cyfraniad i'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Leanne Wood AC, ac roedd Siân Gwenllian yn dirprwyo ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

 

(09.30-10.30)

2.

Ymchwiliad i Fudd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well – sesiwn dystiolaeth 1

Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru

Cian Sion, Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·        Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru

·        Cian Siôn, Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

 

 

(10.40-11.40)

3.

Ymchwiliad i Fudd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well – sesiwn dystiolaeth 2

Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan;

 

(11.40-11.45)

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Gohebiaeth gan Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ynghylch data ystadegol a chydraddoldebau – 4 Mehefin 2019

Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ynghylch data ystadegol a chydraddoldebau.

 

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch papur trafod Archwilydd Cyffredinol Cymru – 6 Mehefin 2019

Papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch papur trafod Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac eitem 1 o’r cyfarfod ddydd Iau 27 Mehefin

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(11.45-12.15)

6.

Ymchwiliad i Fudd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well – trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad â’r Alban

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3. 

 

(12:15-12.20)

7.

Trafod adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau).