Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3 a 6

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(09:30-10:00)

3.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: Adborth o sesiynau'r grwpiau ffocws

Nodyn i grynhoi’r grwpiau ffocws

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth a gafwyd o'r sesiynau a gynhaliwyd â'r grwpiau ffocws. 

 

(10:00-11:30)

4.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: Sesiwn Dystiolaeth 5

·         Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

·         Simon Jones, Cyfarwyddwr, Isadeiledd Economaidd

·         Dewi Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trafnidiaeth, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau

 

Papur briffio

Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

·       Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd

·       Dewi Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth

4.2 Cytunodd y Gweinidog i gymryd y camau a ganlyn:

·       darparu rhagor o wybodaeth am nifer yr achosion o bobl yn camddefnyddio'r cynllun bathodyn glas yng Nghymru, gan gynnwys manylion y data sydd gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol sy'n dangos bod 20 y cant o fathodynnau glas yn cael eu camddefnyddio ledled y DU;

·        darparu manylion ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio gweithdai hyfforddi a phecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer asesiadau bathodyn glas; a

·       darparu manylion am y gyfran o achosion o gamddefnyddio'r system y gellir ei gwaredu drwy ddileu bathodynnau nad ydynt yn ddilys.

 

 

(11:30-11:35)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Gwneud gwaith craffu yn ‘Addas at y Dyfodol’

Papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch gwneud gwaith craffu yn ‘Addas at y Dyfodol’.

 

5.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Gorchymyn Gwasanaeth Carchardai 4650 cyfredol ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion

Papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Gorchymyn Gwasanaeth Carchardai 4650 cyfredol ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion.

 

5.3

Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'

Papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'.

 

(11:35-12:00)

6.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.