Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/02/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

1.1

Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus - gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

 

1.2

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) - gohebiaeth gan Llyr Gruffydd AC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Llyr Gruffydd AC.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 5 a 8

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 10.45)

3.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus: ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(10.45 - 11.00)

4.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad anffurfiol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad anffurfiol.

 

(11.00 - 11.30)

7.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: sesiwn dystiolaeth 3

Bernie Bowen-Thompson, Prif Weithredwr, Cymru Ddiogelach

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Bernie Bowen-Thomson, Prif Weithredwr, Cymru Ddiogelach

 

6.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Bernie Bowen-Thompson i ysgrifennu at y Pwyllgor ar ôl rhoi ystyriaeth bellach i’r gwahaniaethau demograffig mewn safbwyntiau ar roi’r hawl i garcharorion benywaidd bleidleisio. Cytunodd hefyd i ofyn i’w timoedd a yw eu staff wedi trafod rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio gyda dioddefwyr troseddau.

 

6.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Bernie ynghylch unrhyw gwestiynau nas chyrhaeddwyd.

 

(11.30 - 12.00)

8.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: sesiwn dystiolaeth 4

Darren Trollope, Pennaeth Cynllunio a Chyngor Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Darren Trollope, Pennaeth Cynllunio a Chyngor Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

 

(12.00 - 12.15)

6.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 3 a 4

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.