Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jenny Rathbone AC a Huw Irranca-Davies AC.   

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 7 y cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 7 y cyfarfod.

 

(10.30 - 10.45)

3.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad anffurfiol

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad anffurfiol.

 

(10.45 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: sesiwn dystiolaeth 1

Dr Robert Jones, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru

Dr Greg Davies, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Dr Robert Jones, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru

·       Dr Greg Davies, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

(11.30 - 12.15)

5.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: sesiwn dystiolaeth 2

Mark Day, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu, Yr Ymddiriedolaeth Ddiwygio Carchardai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Mark Day, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu, Yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai

 

7.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn: ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

 

5.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â'r ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas â’r ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

(12.15 - 12.30)

6.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 4 a 5

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5.