Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Siân Gwenllian AC a Jack Sargeant AC.

(09.30 - 11.00)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: sesiwn dystiolaeth 2

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Jo-anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru

John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio
Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Cyllid Llywodraeth Leol a Partneriaeth y Gweithlu.
John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r eitemau a ganlyn:

·       Nodyn ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan undebau credyd i hyrwyddo eu cyfleusterau benthyca;

·       Mewn perthynas â tharged cyffredinol y Llywodraeth o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, gwybodaeth ynghylch nifer y cartrefi hyn sy'n dod o dan y diffiniad traddodiadol o dai fforddiadwy;

·       Enghreifftiau o arferion da mewn perthynas â'r gwaith a wneir gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru i wella cyfranogiad tenantiaid.

(11.00 - 12.30)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: sesiwn dystiolaeth 3

Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Jo-anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau & Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
  • Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Gweithlu a Phartneriaeth Cymdeithasol

 

 3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu'r eitemau a ganlyn:

  • nodyn ynghylch sut y mae'r Llywodraeth yn gyrru'r agenda er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ceisio gwella gwerth am arian yng nghyd-destun y gyllideb ar gyfer priffyrdd;
  • eglurder ynghylch yr £20 miliwn mewn arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, y darperir ar ei gyfer yn y Grant Cynnal Refeniw;
  • nodyn ynghylch pa gyfran o'r gyllideb sy'n cael ei defnyddio at ddibenion gwariant ataliol.

 

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

4.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

4.3

Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

4.4

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch byrddau gwasanaethau cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch byrddau gwasanaethau cyhoeddus

4.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall

4.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Llywydd ynghylch Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Llywydd ynghylch Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(12.30 - 13.00)

6.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, a fydd yn llywio ei adroddiad drafft.