Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/10/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC. Dirprwyodd David Melding AC ar ran Mark Isherwood AC ar gyfer eitemau 3 a 7 y cyfarfod.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: sesiwn dystiolaeth 1

Y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Carys Lord, Pennaeth Cyllid, Cyngor Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Carys Lord, Pennaeth Cyllid, Cyngor Bro Morgannwg

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu:

·       Nodyn ar ymagwedd awdurdodau lleol tuag at gynnydd yn y dreth gyngor, gan gynnwys yr amrywiadau mewn dulliau ar gyfer y sawl sydd â chronfeydd wrth gefn uwch neu is;

·       Enghreifftiau o sut y mae llywodraeth leol yn ymgysylltu â'i holl weithlu gyda'r agenda iechyd ataliol;

·       Nodyn ar gyfran y gofal cymdeithasol a ddarperir gan ddarparwyr preifat.

 

(10.55 - 11.40)

3.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): sesiwn dystiolaeth 6

Tom Jones, Uwch Reolwr Prosiect, Viridis Real Estate

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.      Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tom Jones, Uwch-reolwr Prosiect, Viridis Real Estate.

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch yr ymchwiliad i rôl celfyddydau a diwylliant wrth fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu mewn perthynas â'r ymchwiliad i rôl celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol.

 

4.2

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.40 - 11.55)

6.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

(11.55 - 12.05)

7.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.