Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.45)

1.

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC, ac roedd David Melding AC yno fel dirprwy. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Bethan Sayed AC, Gareth Bennett AC a Jack Sargeant AC.

 

 

 

(11.00 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): sesiwn dystiolaeth 5

  • Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio
  • Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
  • Francois Samuel, Pennaeth Rheoliadau Adeiladu, Rheoliad Adeiladu, Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru
  • Andy Fry OBE, Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, Y Gangen Gwasanaethau Tân, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
  • Huw Maguire, Uwch Reolwr Polisi, Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

·       Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

·       Francois Samuel, Pennaeth Rheoliadau Adeiladu, Rheoliad Adeiladu, Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru

·       Andy Fry OBE, Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, Y Gangen Gwasanaethau Tân, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

·       Huw Maguire, Uwch Reolwr Polisi, Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

 

3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu nodyn ar resymeg Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r casgliad bod drysau blaen fflatiau yn cael eu hystyried fel rhannau cyffredin yr adeilad, at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân. 

 

 

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn cysylltiad â Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).

 

4.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor Lythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

(12.00 - 12.15)

6.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 6 a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr ar ei gasgliadau.