Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/09/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC, a bu David Melding AC yn dirprwyo. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jack Sargeant AC, Siân Gwenllian AC a Jayne Bryant AC.

 

 

(09.00 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): sesiwn dystiolaeth 1

David Hancock, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnesau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Kevin Roberts, Uwch-reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Christian Hadfield, Rheolwr Grŵp Adran Gweithrediadau, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Owen Jayne, Rheolwr Grŵp, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       David Hancock, rheolwr grŵp, pennaeth diogelwch tân busnesau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·       Kevin Roberts, uwch-reolwr diogelwch tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

·       Christian Hadfield, rheolwr grŵp – Adran Gweithrediadau, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

·       Owen Jayne, rheolwr grŵp, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

 

 

 

 

 

(10.00 - 11.00)

3.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): sesiwn dystiolaeth 2

Nigel Glen, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Asiantau Rheoli Preswl

Jason Clarke, Pennaeth Rheoli Risg, Warwick Estates

Rachel Dobson, Pennaeth Iechyd a Diogelwch, Mainstay Group Limited

Julie Griffiths, Rheolwr Eiddo ar gyfer eiddo a reolir yng Nghymru, Mainstay Group Limited

David Clark, Cadeirydd, Mainstay Group Limited

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Nigel Glen, prif swyddog gweithredol, y Gymdeithas Asiantau Rheoli Preswyl

·       Jason Clarke, pennaeth rheoli risg, Warwick Estates

·       Rachel Dobson, pennaeth iechyd a diogelwch, Mainstay Group Limited

·       Julie Griffiths, rheolwr eiddo ar gyfer eiddo a reolir yng Nghymru, Mainstay Group Limited

·       David Clark, Cadeirydd, Mainstay Group Limited

 

(11.00 - 12.00)

4.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): sesiwn dystiolaeth 3

Cassandra Zanelli, ymgynghorydd mygedol Ffederasiwn Cymdeithasau Preswylwyr Preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Cassandra Zanelli, ymgynghorydd mygedol i'r Ffederasiwn Cymdeithasau Preswylwyr Preifat

 

(12.00 - 13.00)

5.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): sesiwn dystiolaeth 4

Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Graham Bond, Rheolwr Rheoli Adeiladau Dros Dro, Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, Cyngor Caerdydd

Dave Holland, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, a Bro Morgannwg

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Jim McKirdle, swyddog polisi tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Graham Bond, rheolwr rheoli adeiladau dros dro, Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, Cyngor Caerdydd

·       Dave Holland, pennaeth gwasanaethau rheoliadol a rennir, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, a Bro Morgannwg

 

5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y mae'r sefyllfa ariannu mewn perthynas â swyddogaethau rheoleiddio awdurdodau lleol wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf.

 

 

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

6.1

Cyflwyniad ysgrifenedig gan CRM Residential

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan CRM.

 

6.2

Cyflwyniad ysgrifenedig gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.

 

6.3

Cyflwyniad ysgrifenedig gan RICS

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan RICS.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 3 Hydref 2018 ac o eitem 1 y cyfarfod ar 11 Hydref 2018

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(13.00 - 13.20)

8.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (sector preifat): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 a 5

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.

 

(13.20 - 13.25)

9.

Trafod y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Llywydd a chytunodd i gynnal ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion.