Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/05/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 10.45)

1.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

2.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jenny Rathbone AC a Gareth Bennett AC.

(11.00 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 6

Anna Whitehouse, Sylfaenydd, Mother Pukka

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Anna Whitehouse, Sylfaenydd, Mother Pukka

 

3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Anna Whitehouse i roi ystadegau y mae wedi'u casglu gan ei dilynwyr wrth baratoi at y sesiwn, yn ogystal ag enghreifftiau o ymarfer gan fusnesau.

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

4.2

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch beichiogrwydd, mamolaeth a gweithio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gweithio yng Nghymru.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(12.00 - 12.15)

6.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.