Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.05 - 10.05)

1.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(10.05 - 10.40)

2.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – trafod y materion allweddol

Cofnodion:

2.1 Ni wnaeth y Pwyllgor gyrraedd yr eitem hon a bydd yn ei hystyried mewn cyfarfod diweddarach.

 

(10.40 - 10.45)

3.

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf

Cofnodion:

2.1 Ni wnaeth y Pwyllgor gyrraedd yr eitem hon a bydd yn ei hystyried mewn cyfarfod diweddarach.

 

(10.45 - 10.55)

4.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - trafod yr opsiynau o ran ymgysylltu

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried ac yn cytuno ar ei opsiynau ymgysylltu ar gyfer yr ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru.

 

5.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

5.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mick Antoniw a Bethan Jenkins AC.

 

(11.00 - 12.30)

6.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 6

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Rob Owen, Rheolwr Polisi Atal Digartrefedd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

·         Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·         Rob Owen, Rheolwr Polisi Atal Digartrefedd, Llywodraeth Cymru

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr oddi wrth Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip at y Llywydd ynghylch craffu ar baratoadau ar gyfer Cyfrifiad Poblogaeth 2021.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Llythyr oddi wrth Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip at y Llywydd ynghylch craffu ar baratoadau ar gyfer Cyfrifiad Poblogaeth 2021.

 

7.2

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.

 

7.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.4

Llythyr oddi wrth Heddlu De Cymru at Mick Antoniw AC mewn cysylltiaad â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Heddlu De Cymru at Mick Antoniw AC mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.30 - 12.45)

9.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 7.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 7.