Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2   Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 6 a 7 o'r cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(09.00 - 10.00)

3.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Brîff technegol

Gareth Howells, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad

Joanne McCarthy, y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor frîff technegol ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) gan Gomisiwn y Cynulliad.

 

(10.00 - 11.30)

4.

Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19: sesiwn dystiolaeth 1

Y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd ar Gyllid ac Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Steve Jones, Cadeirydd Cymdeithas Trysoryddion Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cyllid ac Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Steve Thomas CBE, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Steve Jones, Cadeirydd Cymdeithas Trysoryddion Cymru

 

4.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gofynnwyd am wybodaeth bellach gan y tîm clercio ar y rhagolwg cyllideb llywodraeth leol bedair blynedd yn Lloegr.

 

4.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Steve Thomas, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ddarparu:

  • nodyn ar sut roedd awdurdodau lleol yn Lloegr yn defnyddio eu pŵer cymhwysedd cyffredinol i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol a chynhyrchu incwm;
  • manylion ar lefel y cronfeydd wrth gefn, gan gynnwys cronfeydd wrth gefn a ddyrannwyd a chronfeydd wrth gefn nas dyrannwyd, ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

 

 

 

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

5.2

Llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

5.3

Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at Siân Gwenllian ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at Siân Gwenllian ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

5.4

Gohebiaeth oddi wrth Puffin Produce Ltd ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Tinopolis Cymru ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

5.5

Gohebiaeth oddi wrth Puffin Produce Ltd ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Puffin Produce Ltd ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

(11.35 - 11.50)

6.

Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19: trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 4

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4 a chytunodd ar nifer o faterion i'w codi yn ystod y sesiwn dystiolaeth a fydd yn digwydd ar y gyllideb ddrafft gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.

 

(11.50 - 12.10)

7.

Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru: papur opsiynau

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur opsiynau a chytunodd ar nifer o gamau i'w cymryd.