Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel
HTML (999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan Gareth Bennett AC a Sian Gwenllian AC. Roedd David Melding AC yn
dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitem 6 o'r cyfarfod. |
||
(09.15 - 10.45) |
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - sesiwn dystiolaeth 4: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ·
Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ·
Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi ·
Ruth Studley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pontio Cymunedau yn
Gyntaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. · Jo-Anne
Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi · Ruth Studley,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Pontio Cymunedau yn Gyntaf 2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant i ddarparu: · Manylion am y
broses ar gyfer holi ynghylch cynlluniau llesiant byrddau gwasanaeth, fel yr
amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru); · Nodyn o'r
trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, byrddau cyflawni
lleol a byrddau gwasanaeth cyhoeddus ar drefniadau trosiannol; · Copi o'r
Canllawiau Pontio a Strategaeth a ddarparwyd i awdurdodau lleol; · Nodyn ar
werthusiad rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn, gan gynnwys unrhyw ddata sydd
ar gael a'r meini prawf asesu; · Nodyn yn rhoi
rhagor o fanylion am y llwybr cyflogadwyedd ar ôl ymgysylltu â'r rhaglenni
Cymunedau am Waith ac Esgyn; · Copi o'r
canllawiau ar y rhaglen ased cyfalaf. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 9 Mehefin 2017 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau
Cysylltiedig (Cymru) - 9 Mehefin 2017. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 13 Mehefin 2017 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau
Cysylltiedig (Cymru) - 13 Mehefin 2017. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â gwaith craffu ar y Gyllideb ddrafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn
perthynas â chraffu ar y gyllideb ddrafft. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.00 - 11.30) |
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o faterion a nodwyd. |
|
(11.30 - 12.30) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad
yn amodol ar rai mân newidiadau. |
|
Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrrau o fflatiau: ystyried y dull Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull a chytunodd i gynnal ymchwiliad undydd ar
13 Gorffennaf 2017. |