Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel HTML (999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC a Rhianon
Passmore AC. |
||
(09.15 - 10.15) |
Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1 Melanie Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru a
Strategaeth a Pholisi Corfforaethol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Melanie Field, Cyfarwyddwr Gweithredol, Strategaeth a Pholisi Cymru a
Chorfforaethol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ·
June Milligan - Comisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a
Chadeirydd Pwyllgor Cymru 2.2 Cytunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i roi adborth ynghylch
pryderon yr Aelodau am sut mae hawliau dynol yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm
i Bwyllgor Cymru, ac i ddarparu nodyn am unrhyw drafodaethau a gynhelir. |
|
(10.15 - 11.15) |
Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2 Dr
Simon Hoffman, Darlithydd Cysylltiol, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol
Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol
Abertawe ·
Yr Athro Thomas Glyn Watkin, cyn Bennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor a
Chwnsler Deddfwriaethol cyntaf Cymru 2007-2010 |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn cysylltiad â Gweithwyr Asiantaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Gweithiwr Asiantaeth. |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â Chyllid Cymunedau yn Gyntaf Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau
a Phlant mewn perthynas â Chyllid Cymunedau yn Gyntaf. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.30 - 11.45) |
Ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3. |
|
(11.45-12.00) |
Tlodi yng Nghymru: papur cwmpasu Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad,
a chytunodd arnynt. |
|
Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru Dogfennau ategol:
|