Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel HTML
(999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.
1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
||
(09.15 - 10.45) |
Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a
Ffyniant Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ·
Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth ·
Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi ·
Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a Ffyniant 2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i: ·
ddarparu gwybodaeth am y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni
Cyflenwi yn gynnar yn y broses o lunio’r cod hwn; ·
darparu ffigurau o'r gwaith ymchwil a wnaed yn ddiweddar ynghylch
tan-hawlio budd-daliadau ar gyfer y ddau gyfnod ariannol diwethaf o leiaf; ·
darparu unrhyw dystiolaeth yn deillio o'r gwerthusiad o'r Rhaglen Esgyn a
Chymunedau am Waith. Os nad oes tystiolaeth ar gael, cytunodd Ysgrifennydd y
Cabinet i egluro pa waith gwerthuso fydd yn cael ei wneud; ·
darparu nodyn ar Fond Lles Cymru; ·
darparu linc i'r adroddiad ar drydedd flwyddyn Creu Cymunedau Cryf: Symud
Ymlaen â'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, sy'n cynnwys ystadegau
perthnasol ar dlodi plant; ·
ymchwilio i'r mater o absenoldeb a nodwyd gan Joyce Watson AC wrth drafod
caffael moesegol; a ·
darparu'r dangosfwrdd data a ddefnyddiwyd i werthuso cynnydd polisïau a
rhaglenni. 2.3. Cafwyd datganiad o fuddiant gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a'r Seilwaith ynghylch peilot y clybiau cinio a hwyl yn ystod gwyliau'r haf
oherwydd ei fod yn rhan o'r gwaith o lunio'r maniffesto a oedd yn cynnwys yr
addewid hwn. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(10.55 - 11.05) |
Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - trafod tystiolaeth o dan eitem 2 Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith mewn
perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(11.05 - 11.20) |
Senedd@Casnewydd – Trafod yr opsiynau ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y ffordd y bydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd fel rhan o ddigwyddiad Senedd@Casnewydd
a chytunodd ar y ffordd ymlaen. |
|
(11.20 - 12.20) |
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches - Trafod y prif faterion
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei
adroddiad. |