Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

 

2.

Papurau i’w nodi

2.1

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1a Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.

 

2.2

Llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch cylch gwaith dros dro y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch cylch gwaith dros dro y Pwyllgor. 

 

2.3

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

 

2.4

Llythyr gan y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn.

 

2.5

Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Er mwyn ystyried:

  • Bil Cymru Llywodraeth y DU

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(09.15 - 10.10)

4.

Craffu ar Fil Cymru Llywodraeth y DU

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor Fil Cymru Llywodraeth y DU a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda'i farn ar y Bil. Caiff ymateb drafft ei drafod yn y cyfarfod ar 21 Medi.

 

(10.10 - 10.20)

5.

Ymgynghoriad ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 - Y wybodaeth ddiweddaraf a’r camau nesaf

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a chytunodd arnynt. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sydd newydd eu penodi i ofyn am fanylion blaenraglenni gwaith y Comisiynwyr ac unrhyw waith sydd wedi'i gynllunio sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod.