Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC, Joyce Watson AC a
Bethan Jenkins AC. |
||
(09.15 - 10.15) |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - trafod blaenoriaethau cynnar Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Dyfodol Tecach, Llywodraeth
Cymru Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ·
Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Dyfodol Tecach, Llywodraeth
Cymru ·
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Er mwyn ystyried: ·
tystiolaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth
Leol, o dan eitem 2 ·
busnes cynnar a blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.15 - 10.25) |
Trafod tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Cofnodion: 4.1
Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid a Llywodraeth Leol. |
|
(10.25 - 10.45) |
Y flaenraglen waith - trafod busnes cynnar Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth am fusnes cynnar ac
ystyriodd flaenraglen waith ddrafft ar gyfer tymor yr hydref. 5.2
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i
gyfarfod ar ddechrau tymor yr hydref i drafod ei flaenoriaethau o fewn ei
bortffolio. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes i sesiwn graffu i drafod rôl a blaenoriaethau Tasglu’r Cymoedd a
gyhoeddwyd yn ddiweddar. 5.3
I ddechrau ei raglen waith, cytunodd y Pwyllgor i ymgymryd â darn o waith
craffu ar ôl deddfu ar weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin
Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a gaiff ei gynnal yn ystod tymor yr
hydref. 5.4
I helpu i lywio rhaglen waith tymor hwy y Pwyllgor, cytunodd i ysgrifennu at
randdeiliaid dros yr haf i ofyn am eu barn ar y blaenoriaethau, a’r
posibiliadau ar gyfer cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol. |
|
Trawsgrifiad |