Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/02/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 11.00)

1.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): y prif faterion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei faterion allweddol, a chytunodd arnynt.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(11.00 - 11.45)

3.

Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - sesiwn dystiolaeth 1

Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol, Cymorth i Ferched Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol, Cymorth i Ferched Cymru

 

3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth cytunodd Cymorth i Ferched Cymru i ddarparu:

·       Rhagor o fanylion am y ffyrdd a awgrymir y gellid addasu'r Ddeddf, ar ôl cyflwyno Bil Cam-drin Domestig y DU.

·       Gwybodaeth am ddulliau peilot diweddar sydd wedi canolbwyntio ar atal (er enghraifft Newid sy'n Para).

·       Ehangu ar sut y gallai Llywodraeth Cymru wella'r ddarpariaeth ar gyfer menywod nad oes ganddynt hawl i gael arian cyhoeddus.

·       Nodyn ar weledigaeth Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer strwythur fframwaith canlyniadau.

·       Nodyn ar gyfleoedd i'r Ddeddf gyd-fynd â gwaith sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

·       Ehangu ar yr hyn y dylai Strategaeth Genedlaethol 2021 ei gynnwys, a'r hyn y gellir ei ddysgu o'r pum mlynedd diwethaf.

 

(11.45 - 12.30)

4.

Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - sesiwn dystiolaeth 2

Huw Rees, Cyfarwyddwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Philippa Dixon, Uwch-archwilydd, Swyddfa Archwilio Cymru

Nick Selwyn, Rheolwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Huw Rees, Cyfarwyddwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru

·       Philippa Dixon, Uwch Archwilydd, Swyddfa Archwilio Cymru

·       Nick Selwyn, Rheolwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru

 

4.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i ddarparu:

·       Copi o'i hadroddiad ym mis Rhagfyr 2018 ynghylch defnyddio data.

·       Rhagor o wybodaeth am y rhaglen Teuluoedd Cydnerth yn Rhondda Cynon Taf.

 

5.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (mis Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a Nododd y Pwyllgor y diweddariad gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Rhagfyr 2019).

 

5.2

Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr NSPCC Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan NSPCC Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

5.3

Cyflwyniad ysgrifenedig gan Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

5.4

Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

(12.30 - 12.40)

7.

Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.