Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(11.30 - 12.30)

2.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 9

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Owain Lloyd, Is-Gyfarwyddwr, Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

·         Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

·         Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

·         Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ddarparu dadansoddiad cychwynnol o gynlluniau peilot y cynnig Gofal Plant.

 

2.3 Yn ystod y sesiwn cytunodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i ddarparu data ar fenywod yn y diwydiannau STEM, yn enwedig recriwtio a chadw ar ôl absenoldeb mamolaeth.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â Senedd@Delyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Llywydd mewn perthynas â Senedd@Delyn.

 

3.2

Llythyr gan y Prif Weinidog mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 7 Mehefin 2018

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(12.30 - 12.40)

5.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ac at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ynghylch materion a godwyd yn ystod y sesiwn.