Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.

 

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

2.1

Gwybodaeth ychwanegol gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

2.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

2.3

Gohebiaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(09.00 - 10.30)

4.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(10.30 - 10.35)

5.

Llythyr gan y Llywydd ynghylch adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch adnoddau ar gyfer craffu Brexit a chytunodd i ymateb iddo.

 

(10.35 - 10.45)

6.

Llythyr drafft at y Prif Weinidog ynghylch hawliau dynol yng Nghymru

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei lythyr drafft at y Prif Weinidog ynghylch hawliau dynol yng Nghymru, a chytunodd arno, yn amodol ar rai newidiadau.