Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/03/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Siân Gwenllian AC, Janet Finch-Saunders AC a Bethan Jenkins AC.  

 

(09.15 - 10.30)

2.

Craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: craffu blynyddol

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Cathy Madge, Gwneuthurwr Newid Arweiniol

 

Adroddiad blynyddol 2016/17

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

·         Cathy Madge, Gwneuthurwr Newid Arweiniol

 

2.2 Cytunodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i roi dadansoddiad a luniwyd gyda rhanddeiliaid ynghylch ffyrdd amgen o wario'r gost a amcangyfrifir o £ 1.2bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

 

2.3 Datganodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru fuddiant perthnasol.

 

 

 

 

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.2

Nodyn o ymweliad â’r Wallich mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y nodyn o ymweliad â'r Wallich mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Powys mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Powys mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.4

Gwybodaeth ychwanegol gan Heddlu De Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Heddlu De Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.5

Gwybodaeth ychwanegol gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.6

Gwybodaeth ychwanegol gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.7

Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.7.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.8

Gwybodaeth ychwanegol gan Dr Peter Mackie mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Dr Peter Mackie mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.9

Gwybodaeth ychwanegol gan Shelter Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.9.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Shelter Cymru mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

3.10

Gohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu ynghylch Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.10.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu ynghylch Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(10.35 - 10.45)

5.

Craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: craffu blynyddol - trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem2.

 

(10.45 - 11.15)

6.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitem 6 yn ei gyfarfod ddydd Mercher 7 Mawrth 2018.

 

(11.15 - 12.15)

7.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru: trafod y materion allweddol

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitem 7 yn ei gyfarfod ddydd Mercher 7 Mawrth 2018.

 

(12.15 - 13.15)

8.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – trafod y materion allweddol

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitem 8 yn ei gyfarfod ddydd Mercher 7 Mawrth 2018.

 

(13.15 - 13.20)

9.

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitem 9 yn ei gyfarfod ddydd Mercher 7 Mawrth 2018.