Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

(09.05 - 10.05)

2.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - sesiwn dystiolaeth 1

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tina McMahon, Uwch Reolwr Adfywio Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Gareth Davies, Rheolwr Perfformiad a Deilliannau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Tina McMahon, Uwch Reolwr Adfywio Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Gareth Davies, Rheolwr Perfformiad a Canlyniadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu copi o'u cynlluniau pontio manwl, pan fyddant ar gael.

 

(10.05 - 11.05)

3.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - sesiwn dystiolaeth 2

Dr Eva Elliott, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Cymdeithasol, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Dr Eva Elliott, Uwch Ddarlithydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol, yn Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD),  Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

 

3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Dr Eva Elliott i ymgynghori â chydweithwyr perthnasol a darparu gwybodaeth am y dangosyddion lleol a chenedlaethol a awgrymwyd, i gynorthwyo â’r gwaith mesur perfformiad.

 

(11.10 - 12.10)

4.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - sesiwn dystiolaeth 3

Russell Todd, Rheolwr Cymunedau yn Gyntaf, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Sectorau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Russell Todd, Rheolwr Cymunedau yn Gyntaf, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
  • Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Datblygu Strategaeth a’r Sector, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
  • Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan

 

 4.2 - Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu copi o'u hargymhellion ar gyfer llywio’r agenda trechu tlodi yn y dyfodol, cyn gynted ag y byddant ar gael.

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Cofnod o’r ymweliad i drafod Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

The 5.1.a Nododd y Pwyllgor y cofnod o’r ymweliadau’n ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd.noted the note of the visits in relation to 5.1.a Nododd y Pwyllgor y cofnod o’r ymweliadau’n ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd.Communities First - lessons learnt.

5.2

Goheniaeth gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant  ynghylch Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

5.3

Cofnod o’r trafodaethau grŵp gyda thenantiaid ynghylch Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a Nododd y Pwyllgor y nodiadau ar y trafodaethau â thenantiaid ynghylch y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

5.4

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

5.5

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

5.6

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynghylch hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.

5.7

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynghylch diwygio llywodraeth leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynghylch diwygio llywodraeth leol.

 

5.8

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deisebau cyfredol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch y deisebau presennol.

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(12.10 - 12.30)

7.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.