Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.   1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

 

(09.15 - 10.45)

2.

Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a Ffyniant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

·         Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth

·         Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cydraddoldeb a Ffyniant

 

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i:

·         ddarparu gwybodaeth am y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn gynnar yn y broses o lunio’r cod hwn;

·         darparu ffigurau o'r gwaith ymchwil a wnaed yn ddiweddar ynghylch tan-hawlio budd-daliadau ar gyfer y ddau gyfnod ariannol diwethaf o leiaf;

·         darparu unrhyw dystiolaeth yn deillio o'r gwerthusiad o'r Rhaglen Esgyn a Chymunedau am Waith. Os nad oes tystiolaeth ar gael, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pa waith gwerthuso fydd yn cael ei wneud;

·         darparu nodyn ar Fond Lles Cymru;

·         darparu linc i'r adroddiad ar drydedd flwyddyn Creu Cymunedau Cryf: Symud Ymlaen â'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, sy'n cynnwys ystadegau perthnasol ar dlodi plant;

·         ymchwilio i'r mater o absenoldeb a nodwyd gan Joyce Watson AC wrth drafod caffael moesegol; a

·         darparu'r dangosfwrdd data a ddefnyddiwyd i werthuso cynnydd polisïau a rhaglenni.

 

2.3. Cafwyd datganiad o fuddiant gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghylch peilot y clybiau cinio a hwyl yn ystod gwyliau'r haf oherwydd ei fod yn rhan o'r gwaith o lunio'r maniffesto a oedd yn cynnwys yr addewid hwn.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(10.55 - 11.05)

5.

Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - trafod tystiolaeth o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(11.05 - 11.20)

6.

Senedd@Casnewydd – Trafod yr opsiynau ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y ffordd y bydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd fel rhan o ddigwyddiad Senedd@Casnewydd a chytunodd ar y ffordd ymlaen.    

 

(11.20 - 12.20)

7.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches - Trafod y prif faterion

 

 

 

                                       

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.