Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 517KB) Gweld fel HTML (310KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2.    Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC.

 

1.3.    Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:

·         John Griffiths AC;

·         Jenny Rathbone AC

·         Joyce Watson AC

·         Rhianon Passmore AC

·         Siân Gwenllian AC.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Paul Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Gwasanaethau Datganoledig

Nicola Charles, Cyfreithwraig

 

Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

·         Paul Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Gwasanaethau Datganoledig

·         Nicola Charles, Cyfreithiwr

 

 

2.2        Bu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wneud datganiad o fuddiant fel aelod o undeb.

 

2.3        Yn ystod y sesiwn, cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu eglurhad ynghylch y graddau y bydd y Bil yn effeithio ar y rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar ran awdurdodau datganoledig yng Nghymru, yn ogystal â'r awdurdodau hynny eu hunain a'u gweithwyr.

 

 

 

(11.00 - 12.00)

3.

Craffu ar Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

·         Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi

 

3.2 Cytunodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddarparu copi o’r llythyr a anfonwyd at bob awdurdod lleol mewn perthynas â’r amserlenni statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar faterion na chafwyd cyfle i’w trafod yn ystod y cyfarfod, ac ar faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

 

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Gohebiaeth gan y Llywydd mewn cysylltiad â Senedd@Casnewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd mewn perthynas â Senedd@Casnewydd

 

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn cysylltiad â ‘Llais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a sefydliadau datganoledig’.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â 'Llais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â Chymru/San Steffan a gwledydd datganoledig'

 

4.3

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

4.4

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

 

 

(12.00 - 12.15)

6.

Craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.