Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 370KB) Gweld fel HTML (206KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

 

(09.15 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is Adran Cydraddoldeb a fyniant

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is Adran Galluogi Pobl

John Davies, Uwch Rheolwr Cynhwysiant yr Is Adran Cydraddoldeb a Ffyniant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cydraddoldeb a Ffyniant

·         Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Galluogi Pobl

·         John Davies, Uwch Rheolwr Cynhwysiant yr Is-adran Cydraddoldeb a Ffyniant

 

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:

·         Manylion cyswllt Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd mewn perthynas ag integreiddio a chydlyniant cymunedol a'r sesiwn adborth ddilynol a gynhaliwyd gyda'r Ysgrifennydd Cabinet;

·         Gwybodaeth ynghylch canlyniadau'r pum rhaglen gyfathrebu sy'n cael eu cynnal gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, neu unrhyw sefydliadau perthnasol eraill sy'n cael cyllid ar gyfer eu rhaglenni gan Lywodraeth Cymru.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan City of Sanctuary UK and Ireland a Chadeirydd Cyfiawnder Lloches ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan City of Sanctuary UK and Ireland a Chadeirydd Cyfiawnder Lloches ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

 

3.2

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Clearsprings ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at Clearsprings ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

3.3

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

 

3.4

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

 

3.5

Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin ar y rhaglen adsefydlu pobl o Syria sy’n agored i niwed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.1. Nododd y Pwyllgor adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin ar y rhaglen adsefydlu pobl o Syria sy’n agored i niwed.

 

3.6

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.00 - 11.30)

5.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(11.30 - 12.00)

6.

Bil Undebau Llafur (Cymru) - briff gan Wasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Wasanaethau Cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad ar y Bil Undebau Llafur (Cymru).