Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Christopher Warner
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watkins AC, Rhianon Passmore AC a Janet Finch-Saunders
AC. |
||
(09.15 - 10.15) |
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 4 Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Anne Hubbard, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Naomi
Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru ·
Anne
Hubbard, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru 2.2
Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu: ·
gwybodaeth
am gynlluniau'r Swyddfa Gartref ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches y gall
awdurdodau lleol yng Nghymru gymryd rhan ynddynt, y tu allan i'r Cynllun
Adsefydlu Ffoaduriaid Syria; ·
enghreifftiau
gan gydgysylltwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol o bobl leol yn y gymuned yn
cefnogi ffoaduriaid, fel "cyfeillio" a darparu cymorth ieithyddol. 2.3
Cytunodd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru i ddarparu copi o'r ymchwil a
wnaed yn ddiweddar gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer
Ffoaduriaid (UNHCR) ar ffoaduriaid yng Nghymru sydd ar y cyfan wedi cael
profiadau cadarnhaol o gael eu hadleoli yng Nghymru. |
|
(10.15 - 11.15) |
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 5 Catriona Williams OBE, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru Cheryl Martin, Swyddog Datblygu, Tlodi Plant, Plant yng
Nghymru Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Shehla Khan, Rheolwr, Tîm Cymorth
Ieuenctid Ethnig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Catriona
Williams OBE, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru ·
Cheryl
Martin, Swyddog Datblygu, Tlodi Plant, Plant yng Nghymru ·
Rocio
Cifuentes, Cyfarwyddwr, Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig ·
Shehla
Khan, Rheolwr, Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig |
|
(11.30 - 12.30) |
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 6 Yr Athro Bill Yule, Cymdeithas Seicolegol Prydain Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan Roisin O’Hare, Nyrs Ceiswyr Lloches, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Yr Athro
Bill Yule, Cymdeithas Seicolegol Prydain ·
Dr Gill
Richardson, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan ·
Roisin
O'Hare, Nyrs Ceiswyr Lloches, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 4.2
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu gwybodaeth am yr
asesiadau iechyd a gynhaliwyd nyrsys plant sy'n derbyn gofal ar ffoaduriaid
ifanc sydd eu pen eu hunain. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: Nodyn ar yr ymweliad â Chyngor Ffoaduriaid yr Alban Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.a.
Nododd y Pwyllgor y nodyn am yr ymweliad â Chyngor Ffoaduriaid yr Alban. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig mewn perthynas â Rhan L y Rheoliadau Adeiladu Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2.a. Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig mewn perthynas â Rhan L y Rheoliadau Adeiladu. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(12.30 - 12.45) |
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod y dystiolaeth o dan eitemau 2, 3 a 4 Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(12.45 - 13.00) |
Y Bil Undebau Llafur (Cymru): Trafod y dull o graffu Cofnodion: 8.1
Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau: ·
John
Griffiths AC; ·
Siân
Gwenllian AC; ·
Jenny
Rathbone AC. 8.2
Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull craffu Cyfnod 1 ar y Bil Undebau Llafur
(Cymru). |
|
(13.00 - 13.15) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Economi Ddigidol Cofnodion: 9.1
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol i ofyn am eglurhad ynghylch goblygiadau hawliau dynol cymalau
perthnasol y Bil. |