Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2 Datganodd Janet Finch-Saunders AC fuddiant fel landlord yn y sector rhentu preifat

(09.15 - 10.30)

2.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – rôl a blaenoriaethau'r Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr  Cydraddoldeb a Ffyniant

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 The Committee received evidence from:

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr  Cydraddoldeb a Ffyniant

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ddilyn i fyny ar y pwyntiau a godwyd yn ystod trafodaethau.

 

(10.40 - 12.00)

3.

ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - trafod blaenoriaethau cynnar y Gweinid

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Jo-anne Daniels,  Cyfarwyddwr, Cymmunedau & Trechu Tlodi
John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan::

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Jo-anne Daniels,  Cyfarwyddwr, Cymmunedau & Trechu Tlodi

·         John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor:

 

  • ynghylch canlyniad ei drafodaeth a drefnwyd gyda Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ffoaduriaid Syria ar rôl Llywodraeth Cymru o ran adsefydlu ffoaduriaid, yn enwedig plant ar eu pennau'u hunain.
  • a gyda manylion amseroedd ar gyfer y bwriad i gyflwyno Bil Hawliau Prydain gan Lywodraeth y DU cyn gynted ag y byddant ar gael, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dylanwadu ar ddatblygiad Bil o'r fath

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) ac (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 29 Medi 2016

Er mwyn ystyried:

·         y dystiolaeth a roddwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan eitem 2

·         y dystiolaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, o dan eitem 3

·         Blaenraglen waith y Pwyllgor

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(12.00 - 12.10)

5.

Trafod y dystiolaeth a ddarparwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth gan:

·         Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

 

 

(12.10-12.30)

6.

Craffu ar Fil Cymru Llywodraeth y DU / Ystyried Ymateb Drafft.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor a chytunwyd ar y llythyr drafft ar y Mesur Llywodraeth Cymru DU.