Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC

1.2 Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon na datganiadau o fuddiannau.

(09.15-10.00)

2.

Asiantau Cefnffyrdd – Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

David Evans, Rheolwr Rhwydwaith / Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

Ian Kenrick Hughes, Rheolwr Gweithrediadau Busnes a Statudol, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

Richard Jones, Pennaeth gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd De Cymru

David Bois, Rheolwr Busnes, Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd David Evans, Ian Kenrick, Richard Jones a David Bois gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

2.2 Cytunodd Richard Jones i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor mewn ymateb i gyfres o gwestiynau gan Lee Waters AC ynghylch Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

(10.00-10.45)

3.

Llywodraeth Leol – Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Materion Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, (CLlLC)

Cllr Andrew Morgan, Llefarydd CLlLC dros Drafnidiaeth, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Tim Peppin a'r Cynghorydd Andrew Morgan gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

3.2 Cytunodd Tim Peppin i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor er mwyn egluro a oes disgwyl i awdurdodau lleol gyhoeddi eu cynlluniau rheoli asedau priffyrdd neu sicrhau bod y cynlluniau hyn ar gael i'r cyhoedd

(11.00-12.15)

4.

Llywodraeth Cymru – Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

Ken Skates AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Sheena Hague, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth y Rhwydwaith

Andy Falleyn, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-Adran Cyflenwi Seilwaith

Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gweithlu a phartneriaeth Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Ken Skates AC, Sheena Hague, Andy Falleyn a Simon Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn dilyn y sesiwn ar Awtomeiddio ac Economi Cymru – Strategaeth Ddiwydiannol y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol

5.2

Gwybodaeth ychwanegol gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn dilyn y sesiwn ar Awtomeiddio ac Economi Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol

5.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch amaethyddiaeth fanwl yn dilyn y sesiwn ar Awtomeiddio ac Economi Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

5.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Flaenraglen Waith: meysydd o ddiddordeb a rennir (Yn berthnasol i eitem 9 ar yr agenda)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

5.5

Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch y costau ariannol sydd ynghlwm wrth brosiectau cefnffyrdd mawr – Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol

5.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 a chrynodeb o'r trafodaethau a gafwyd mewn digwyddiad rhanddeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

5.7

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at Bwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Fasnach Ryngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 11 Gorffennaf a 19 Gorffennaf.

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(12.15-12.30)

7.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n deillio o'r Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) ('y Bil')

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

(12.30-12.50)

8.

Trafod adroddiad drafft – Gwerthu Cymru i'r Byd

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft

(12.50-13.00)

9.

Trafod papur cwmpasu – Ymchwil ac Arloesi Cymru: Craffu cyn y broses ddeddfu

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y papur cwmpasu