Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 756KB) Gweld fel HTML (332KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.

Ni chafwyd dirprwyon na datgan buddiannau.

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 3

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(09.30-10.00)

3.

Preifat - Craffu ariannol yn ystod y flwyddyn

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor graffu ariannol yn ystod y blwyddyn.

(10.00-11.00)

4.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - craffu ariannol yn ystod y flwyddyn

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Simon Jones, Cyfarwyddwr, Trafnidiaeth ac Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire, Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Ken Skates AC, Simon Jones, Mick McGuire a Dean Medcraft gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i roi manylion pellach i'r Pwyllgor am y craffu ariannol yn ystod y flwyddyn.

4.3 Cytunodd Simon Jones i anfon nodyn i'r Pwyllgor ar Fynegeion Chwyddiant Adeiladu

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(11.00-12.00)

6.

Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor

Kate Faragher, CEO, BeSpokeSkills

Cofnodion:

6.1 Cynhaliodd Kate Faragher, Prif Swyddog Gweithredol, BeSpokeSkills, gwrs hyfforddi ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor.

(13.30-14.30)

7.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - Effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Simon Jones, Cyfarwyddwr, Trafnidiaeth ac Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Sheena Hague, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Rheoli'r Rhwydwaith, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Atebodd Ken Skates, Simon Jones, Sheena Hague a Rhodri Griffiths gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

7.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ddarparu rhagor o ddata am gymhorthdal cymharol ar gyfer teithio ar fysiau a threnau.

8.

Papur(au) i'w nodi

8.1

Gwybodaeth ychwanegol gan y Ffederasiwn Busnesau Bach - Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf.

Cofnodion:

9.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig