Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad View the meeting transcript (PDF
1MB) View as HTML
(232KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na
dirprwyon. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||
(09:30 - 10:30) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Ken Skates AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth
Cymru Rhodri Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a
Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i
swyddogion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros
yr Economi a’r Seilwaith i ddarparu (cyn gynted ag y bydd yn hysbys): ·
Gwybodaeth gan Lywodraeth
y DU yn egluro’r rhesymau am newid Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU o fod
yn sefydliad anstatudol i fod yn sefydliad statudol. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a’r Seilwaith hefyd i ddarparu: ·
Dadansoddiad a
gwerthusiad o’r gwahanol fodelau sy’n cael eu hystyried ynglŷn â’r rôl y gallai’r
Comisiwn ei chwarae o ran cyllido buddsoddi mewn seilwaith. |
|
(10:40 - 11:40) |
Awdurdodau Lleol - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru (I'w gadarnhau) Cofnodion: 3.1 Atebodd Darren Mepham o Fargen Ddinesig
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1.1 Nodwyd y dystiolaeth ysgrifenedig
ychwanegol gan y Pwyllgor. |
||
Llythyr at y Cadeirydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ynglŷn â'r diwydiant dur Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch gwasanaethau rheilffyrdd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 15 Rhagfyr 2016. Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11:40 - 11:55) |
Trafod y dystiolaeth seilwaith ryngwladol - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth
seilwaith ryngwladol. |
|
(11:55 - 12:10) |
Trafod y themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y themâu allweddol
sy'n dod i'r amlwg. |
|
(12:10 - 12:25) |
Papur cwmpasu - Ymchwiliad i ddarparu'r Metro a'r masnachfraint rheilffyrdd Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu. |