Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. 1.2 Croesawyd
Sian Gwenllian i'r Pwyllgor gan Bethan Jenkins, y Cadeirydd, a diolchwyd i Dai
Lloyd am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor. |
||
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o drafodion y cyfarfod (PDF 637KB) Gweld
fel HTML (378KB). |
||
(09:30 - 10:15) |
Craffu cyffredinol: Comisiynydd y Gymraeg - Adroddiad Blynyddol Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. 2.2 Gofynnodd Sian Gwenllian am bapur gan Gomisiynydd y
Gymraeg ynghylch ei safbwynt am y cynnydd o ran cael dau gorff; un i
ganolbwyntio ar reoleiddio a'r llall i ganolbwyntio ar faterion strategol. 2.3 Pwysleisiodd Meri Huws yr angen i graffu ar ddefnydd
y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ac mewn prentisiaethau. Cyfeiriodd Dyfan Sion
at friff a gâi ei gyhoeddi, y gellid ei rannu â'r Pwyllgor yn cynnwys y
wybodaeth hon. 2.4 Gofynnodd Lee Waters am gadarnhad ynghylch nifer y
cwynion unigol a gafwyd. Dywedodd Meri Huws y byddai'n rhoi'r wybodaeth hon i'r
Pwyllgor. |
|
(10:25 - 11:10) |
Craffu cyffredinol: Comisiynydd y Gymraeg - Adroddiad Sicrwydd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg Gwenith Price, Cyfarwyddwr
Strategol Guto Dafydd, Uwch Swyddog
Cydymffurfio Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r
Pwyllgor. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Nododd yr aelodau y papurau. |
||
Llythyr gan yr Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(11:10 - 11:30) |
Ôl-drafodaeth breifat |
|
(11:30 - 12:00) |
Newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru: Papur ar y materion allweddol Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a phenderfynwyd y dylid
ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch dyraniad y gyllideb arfaethedig newydd i
Newyddiaduraeth Newyddion. |