Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martha Da Gama Howells 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AC; dirprwyodd Rhianon Passmore AC ar ei ran.

 

(10.00 -11.00)

2.

Gwaith craffu blynyddol ar ITV Cymru

Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru

Jonathan Hill, Golygydd, Rhaglenni’r Rhwydwaith, ITV Cymru

Zoe Thomas, Golygydd, Rhaglenni Saesneg, ITV Cymru

Branwen Thomas, Golygydd Dros Dro, Rhaglenni Cymraeg, ITV Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd tystion o ITV Cymru i gwestiynau gan y Pwyllgor.

2.2 Cytunodd tystion o ITV Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

Ø  y diwygiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r gostyngiad yng ngwerth trwydded ITV Cymru Wales; a

Ø  siâp gwariant yn y dyfodol yng Nghymru oherwydd gwell allbynnau.

 

 

(11.00-11.50)

3.

Gwaith craffu blynyddol ar BBC Cymru Wales

Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru 

Elan Closs Stephens, Aelod o Fwrdd y BBC ar gyfer Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd tystion o BBC Cymru Wales i gwestiynau gan y Pwyllgor.

3.2 Cytunodd tystion o BBC Cymru Wales i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch nifer yr oriau rhaglenni ychwanegol a gynhyrchir yn erbyn y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn 2017.

3.3 Datganodd Rhianon Passmore AC ei bod yn gyn-aelod o Gyngor Darlledu BBC Cymru.

 

 

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth ar y rhaglen Cyfuno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau y papur.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.

 

(11.50-12.00)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth.