Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, Carwyn Jones AC a David Melding AC. 1.3 Roedd
Rhianon Passmore AC yn bresennol fel dirprwy. 1.4
Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau, y tîm Clercio a'r tîm Ymchwil am eu gwaith
caled yn ystod y tymor. |
|
(10.00-11.00) |
Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr o Race Council Cymru Uzo Iwobi,
Cydgysylltydd Hanes Pobl Dduon Cymru, Race Council Cymru Abubakar Madden
Al Shabbaz, Hanesydd Arbenigol Pobl Dduon Cymru, Race Council Cymru Vernesta Cyril
OBE, un o Hynafwyr Windrush, Race Council Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth at Ofcom ynglŷn â chais y BBC i ddileu’r gofyniad i 100% o gynnwys y slot radio amser brecwast fod yn gynnwys llafar Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd
yr Aelodau y papur. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nododd
yr Aelodau y papur. |
||
Gohebiaeth gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch y Gronfa Newyddiaduraeth Hyperleol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3 Nododd
yr Aelodau y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
||
(11.00-11.10) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.10-11.20) |
Trafod yr adroddiad byr drafft: Radio Cymunedol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau. |
|
(11.20-11.30) |
Trafod y flaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Cytunodd yr Aelodau i drafod y flaenraglen waith yn y gyfarfod cyntaf yn dilyn
toriad yr haf. |