Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Carwyn Jones AC a John Griffiths AC i'r Pwyllgor a diolchodd i Jayne Bryant AC, Rhianon Passmore AC a Vikki Howells AC am eu cyfraniad i waith y Pwyllgor.

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC a Delyth Jewell AC. Dirprwyodd Dai Lloyd AC ar ran Delyth Jewell AC.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru: sesiwn dystiolaeth gyda Dr Elin Jones

Dr Elin Jones

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd Dr Elin Jones i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

(10.15-11.00)

3.

Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru: sesiwn dystiolaeth gydag ymarferwyr

Mark Cleverley, Athro Hanes, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)

Ioan Rhys Jones, Swyddog Maes y Gogledd, UCAC 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at UCAC ynghylch y gallu i drosglwyddo sgiliau o ran addysgu yng Nghymru.

 

(11.00-11.45)

4.

Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru: sesiwn dystiolaeth gyda grwpiau sydd â diddordeb yn hanes Cymru

Gareth Jones, Ysgrifennydd - Cymdeithas Owain Glyndŵr

Eryl Owain, Cydgysylltydd - Ymgyrch Hanes Cymru
Wyn Thomas, cyn-bennaeth Adran Hanes, cyn-bennaeth Ysgol Uwchradd ac Aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

(11.45-12.30)

5.

Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru: sesiwn dystiolaeth gyda grwpiau hanes amrywiaeth

Uzo Iwobi, Prif Weithredwr Race Council Cymru

Ginger Wiegand, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Cymru Gyfan – Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru

Gaynor Legall, Cadeirydd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant

 

Cofnodion:

5.1 Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor nad oedd cynrychiolydd Race Council Cymru yn gallu dod i'r cyfarfod oherwydd salwch.

5.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Gohebiaeth â Ken MacQuarrie, Cyfarwyddwr Gwledydd a Rhanbarthau’r DU, y BBC, ynghylch gofynion Ofcom ar gyfer cynnwys radio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ofcom ynghylch eu gofynion ar gyfer cynnwys radio.

 

6.2

Gohebiaeth oddi wrth Band Arian Crosskeys ynghylch y gofyniad am drwyddedau ar gyfer perfformwyr sy'n blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd yr Aelodau y papur.

 

6.3

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3 Nododd yr Aelodau y papur.

 

6.4

Gohebiaeth â Phrif Weithredwr S4C ynghylch y newidiadau arfaethedig i amserlen S4C

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4 Nododd yr Aelodau y papur.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.30-12.45)

8.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

8.1 Cytunodd yr Aelodau i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod hwn yn ei gyfarfod ffurfiol nesaf ar 10 Gorffennaf.