Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Martha Howells 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC a Rhianon Passmore AC.

1.3 Croesawodd y Cadeirydd Huw Irranca-Davies AC a oedd yn dirprwyo ar gyfer Jayne Bryant AC ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.4. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r Pwyllgor nad yw Caroline Jones AC bellach yn Aelod o’r Pwyllgor.

1.5 Diolchodd y Cadeirydd i Caroline Jones AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.

(09.30-11.00)

2.

Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – Llywodraeth Cymru

Lesley-Anne Kerr, Pennaeth Datblygu Amgueddfeydd - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau y papur.

3.2

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd yr Aelodau y papur.

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.00-11.30)

5.

Ôl-drafodaeth breifat a chyfle i drafod materion o bwys

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a’r materion allweddol a gododd o’r dystiolaeth y cafodd y Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn.