Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Diolchodd y Cadeirydd i Jenny Rathbone AC a Jane Hutt AC am eu gwaith fel aelodau o'r Pwyllgor a chroesawodd Vikki Howells AC a Jayne Bryant AC, a gymerodd eu lle.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC. Nid oedd dirprwy ar ei rhan.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Craffu Blynyddol ar Amgueddfa Genedlaethol Cymru

David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol

Neil Wicks, Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol

Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor;

             amlinelliad o'u strategaeth sgiliau; a

             nifer yr ymwelwyr a dalodd i ymweld ag arddangosfeydd yn ystod 2017-18, gan gynnwys y nifer a dalodd gyfradd ostyngedig.

 

(10.30 - 11:30)

3.

Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach: Sesiwn dystiolaeth 10

Gwyneth Ayers, Rheolwr Partneriaeth a Pholisi Corfforaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin

Lyndon Puddy, Pennaeth Uned Gefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen

Sioned Wyn Davies, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd aelodau'r Pwyllgor y papurau.

 

5.

Ymateb gan Gyfarwyddwr BBC Cymru: Cyfleoedd i awduron ac actorion Cymru

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:30 - 12:00)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.