Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Trawsgrifiad: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Nodyn | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Jane Hutt AC, a bu Vikki Howells AC yn dirprwyo ar ei rhan.
|
||
(09.30-10.30) |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 - Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Iaith Gymraeg Jeremy Evas, Pennaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Ymatebodd y Gweinidog a’i swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor a chytunwyd i ddarparu:
· Dadansoddiad o’r dyraniad cyllid ar gyfer y cynllun sabothol; a · Chynllun gweithredu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mewn perthynas ag addysg bellach - pan fydd ar gael.
|
|
(10:30 - 11:30) |
Craffu Blynyddol ar Ofcom Cymru Eleanor Marks, Cyfarwyddwr, Ofcom Cymru Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp, Cysylltiadau Allanol Defnyddwyr
Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, a chytunwyd i ddarparu:
· Memorandwm cyd-dealltwriaeth ar yr hyn yw’r swyddogaeth reoleiddiol a phwy sy’n gwneud beth o ran perthynas Ofcom ag S4C; a · Nodyn ar lefel yr ymwybyddiaeth ymhlith pobl nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg o ran gofynion Ofcom bod yn rhaid i 53 y cant o’r rhaglenni ar S4C fod ag is-deitlau.
|
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Nododd aelodau’r Pwyllgor y papurau.
|
||
Llythyr at y Cadeirydd gan Adam Somerset: Theatr Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at y Cadeirydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig.
|
||
(11:30 - 11:45) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 6.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
|
|
(11:45 - 12:00) |
Trafod y dull o ymdrin â thystiolaeth lafar Cofnodion: 7.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor eu dull o ran ymdrin â thystiolaeth lafar.
|