Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15 - 09.30)

1.

Rhag-gyfarfod preifat

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.

 

(09.30 - 10.45)

3.

Craffu blynyddol ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu adroddiad panel asesu y DU o'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, a nodwyd gan Simon Thomas AC, ac ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'i hymateb ar ei gynnwys.

 

(10.45 - 10.50)

4.

Papur i’w nodi

4.1

Llythyr gan y Llywydd ynghylch gweithredu Deddf Cymru 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.2

Llythyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(10.50 - 11.00)

6.

Trafod ymateb i'r llythyr gan y Llywydd ynghylch gweithredu Deddf Cymru 2017

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr i roi gwybod i'r Llywydd y dylai dyddiad y prif ddiwrnod penodedig fod yn Ebrill 1, 2018, nid 6 Ebrill 2018 fel y nodir yn y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, os yw'r diwrnod i gyd-fynd â'r model cadw pwerau yn dod i rym.

 

(11.10 - 12.30)

7.

Ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i'w lansio ddydd Mercher 26 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.

 

(13.00 - 13.45)

8.

Cyflwyniad ar oblygiadau Deddf y Diddymu o ran Blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Gwarandawodd y Pwyllgor ar y cyflwyniad a thrafododd y materion a godwyd.

 

(13.45 - 14.00)

9.

Trafod Blaenraglen Waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei Flaenraglen Waith ar gyfer tymor yr hydref a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr i brosiectau ynni cymunedol.