Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/02/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew RT Davies AC.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Syr David Henshaw nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod oherwydd salwch.

 

(09.30-11.00)

2.

Sesiwn graffu blynyddol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru

Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Syr David Henshaw, Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

Ceri Davies, Cyfarwyddwr Tystiolaeth, Polisi a Chaniatáu, Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Clare Pillman a Ceri Davies.

 

(11.00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3. Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 3.

 

3.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch cyflawni llwybr carbon isel hyd at 2030

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch amseriad yr ymateb a gafwyd i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019 -20

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch amseriad yr ymateb a gafwyd i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019 -20

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 5, 6 a 7

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 5, 6 a 7.

 

(11.00-11.30)

5.

Sesiwn graffu blynyddol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

(11.30-11.45)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaethu): trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.

 

(11.45-12.00)

7.

Blaenraglen waith: dull ar gyfer brandio a phrosesu bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn a chytunodd arno.