Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC.

1.3     Dywedodd Joyce Watson AC ei bod yn aelod o'r RSPB.

1.4     Cyfeiriodd Andrew RT Davies AC y Pwyllgor at y buddiant a gofrestrwyd ganddo mewn perthynas â'r mater hwn.

 

(09.15-10.15)

2.

Trafod Bioamrywiaeth – Cynllun Nwyddau Cyhoeddus: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau amgylcheddol

Annie Smith, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Arfon Williams, Rheolwr Polisi Defnydd Tir, RSPB Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Arfon Williams ac Annie Smith.

 

(10.15-11.15)

3.

Trafod Bioamrywiaeth – Cynllun Nwyddau Cyhoeddus: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr rheolwyr tir a defnyddwyr tir

Anthony Geddes, Rheolwr Cenedlaethol Cymru - Confor

Rachel Lewis-Davies, Cynghorwr ar yr Amgylchedd / Materion Gwledig - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

Charlotte Priddy, Swyddog Polisi - Undeb Amaethwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anthony Geddes, Rachel Lewis-Davies a Charlotte Priddy.

 

(11.15)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4. Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 4.

 

4.1

Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at y Llywydd ynglŷn â chraffu ar ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:

(11.25)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod heddiw ar gyfer eitem 6 a 7

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6 a 7.

 

(11.25-11.35)

6.

Trafod Bioamrywiaeth – Cynllun Nwyddau Cyhoeddus: trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

 

(11.35-12.30)

7.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.