Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i effaith llygredd microblastigau yn nyfrffyrdd Cymru: sesiwn dystiolaeth un

Yr Athro Steve Ormerod, Athro Ecoleg / Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr, Ysgol y Biowyddorau - Prifysgol Caerdydd

Fredric Windsor, Myfyriwr PhD, Is-adran Ymchwil Organeddau a'r Amgylchedd, Ysgol y Biowyddorau - Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan yr Athro Ormerod a Fredric Morgan i lywio ei ymchwiliad.

 

(10.40 - 11.40)

3.

Ymchwiliad i effaith llygredd microblastigau yn nyfrffyrdd Cymru: sesiwn dystiolaeth dau

Gill Bell, Deisebydd, Pennaeth Cadwraeth Cymru - Cymdeithas Cadwraeth Forol

Julian Kirby, Prif Ymgyrchydd yn erbyn Plastigau - Cyfeillion y Ddaear

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Gill Bell a Julian Kirby i lywio ei ymchwiliad.

 

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd Dros Dro y Pwyllgor Cyllid - Cyllideb ddrafft 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd Dros Dro y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chyllideb ddrafft 2019-20

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(11.40 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i effaith llygredd microblastigau yn nyfrffyrdd Cymru: trafod y dystiolaeth lafar a gafwyd o dan eitemau dau a thri

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiwn 1 a 2.

 

(12.00 - 12.10)

7.

Trafod y flaenraglen waith.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cais gan Tidal Electric Cyf i roi cyflwyniad ar ei brosiect ynni adnewyddadwy mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd yr aelodau i beidio â chytuno â'r cais yn yr achos hwn.