Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd Helen Mary Jones AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC. |
|
(09.00) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 4 ac 8 y cyfarfod heddiw a'r cyfarfod ar 28 Tachwedd 2018 Cofnodion: 2.1
Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3, 4 ac
8 o gyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 28 Tachwedd 2018. |
|
(09.00-09.15) |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |
|
(09.15-09.30) |
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i daliadau am nwyddau cyhoeddus Cofnodion: 4.1
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
|
(09.30 - 11.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Simon Jones, Cyfarwyddwr
Seilwaith Economaidd Prys Davies, Pennaeth Datgarboneiddio ac Ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi a Thrafnidiaeth. 5.2
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu
gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y cais ariannu y mae Caerffili wedi'i gyflwyno
i Lywodraeth y DU a fydd yn ei galluogi i fod y gymuned gyntaf ym Mhrydain lle
bydd yr holl drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei phweru gan drydan. 5.3
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu
nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y broses drosglwyddo a ddigwyddodd rhwng Trenau
Arriva Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, yn ogystal ag unrhyw adroddiadau diwydrwydd
dyladwy. |
|
(11.15 - 12.15) |
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018: sesiwn dystiolaeth gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU Dr Rebecca
Heaton, Aelod Pwyllgor - Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU Dr David Joffe,
Arweinydd Tîm yr Ysgrifenyddiaeth: Dadansoddi ar draws yr economi - Pwyllgor
Newid Hinsawdd y DU Rheoliadau
Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Rheoliadau
Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Dr Rebecca Heaton a Dr David Joffe i
lywio ei ymchwiliad. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 7. Nododd
y Pwyllgor y papurau o dan eitem 7. |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Deben, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ynghylch Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: |
||
(12.15 - 12.30) |
Trafod y dystiolaeth lafar Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 5 a 6. |