Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd John Griffiths AC i'r cyfarfod fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.
Diolchodd y Cadeirydd i Dawn Bowden AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor. Datganodd
Andrew R.T. Davies AC fuddiant fel ffermwr. |
||
11.00 - 12.30 |
Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig Tim Render, Cyfarwyddwr, Tir, Natur a Bwyd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru Keith Smyton, Pennaeth yr Is-adran Fwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Holodd y
Pwyllgor Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, Ailfeddwl am
Fwyd yng Nghymru: Caffael Cyhoeddus mewn cysylltiad â Bwyd. Yn ystod y
sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n: • rhannu â'r Pwyllgor gopi o'i gohebiaeth
ddiweddar â Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion
Gwledig, ynghylch y darpariaethau ar gyfer ardoll cig coch ym Mil
Amaethyddiaeth y DU; • rhoi
manylion pellach i'r Pwyllgor am y camau a gymerwyd ganddi, a'r rhai y mae'n
bwriadu eu cymryd, i gynyddu capasiti ac arbenigedd yn ei hadran i baratoi ar
gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys: i. cadarnhau cyfanswm y staff a recriwtiwyd
a'r swyddi gwag sydd eto i'w llenwi, a ii. cyfanswm y
cyllid a ddyrennir o gyllideb ei hadran i dalu am gost staff ychwanegol a'r
gost cyfle cysylltiedig; ac • egluro am ba hyd y datgymhwysir
paragraff 6.2 o TAN 1. |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - Bil Amaethyddiaeth y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
||
(12.30 - 12.40) |
Trafod y sesiwn dystiolaeth lafar Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y drafodaeth a gafwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Gofynnodd yr
aelodau am y canlynol: Nodyn gan
y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn
perthynas â labelu bwyd, a Nodyn gan
y Gwasanaeth Ymchwil ar y darpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth Ffrainc sy'n
ymwneud â chaffael cyhoeddus mewn cysylltiad â bwyd. |