Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/05/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad i egwyddorion amgylcheddol a threfniadau llywodraethu ôl-Brexit: sesiwn ragarweiniol

Dr Victoria Jenkins, Athro Cyswllt - Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Richard Cowell, Athro mewn Polisi a Chynllunio Amgylcheddol - Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Maria Lee, Cyfarwyddwr Canolfan UCL ar gyfer y Gyfraith a'r Amgylchedd - Coleg Prifysgol Llundain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Athro Maria Lee, Dr Victoria Jenkins a'r Athro Richard Cowell gyflwyniad ar y mater, gan ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru: trafod cylch gorchwyl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad i effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru.