Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(09.30-10.30)

2.

Ansawdd aer yng Nghymru

Peter Oates, Fforwm Ansawdd Aer Cymru

Isobel Moore, Cyfoeth Naturiol Cymru

Clare Whitfield, Cydbwyllgor Cadwraeth Natur

Paul Willis, Ricardo Energy and Environment

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd Fforwm Ansawdd Aer Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ricardo Energy and Environment a'r Cydbwyllgor Gwarchod Natur ynghylch materion sy'n effeithio ar ansawdd aer yng Nghymru.

 

2.2     Dosbarthodd Mr Peter Oates gopi caled o ymateb Panel Arbenigol Llygredd Cymru Gyfan i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoli ansawdd aer.

2.3     Rhoddodd Mr Oates gopi i'r Pwyllgor o'r Asesiad o Effaith ar Iechyd ar gyfer y datblygiad ysbyty Gofal Critigol yn Nhorfaen.

 

(10.45-11.30)

3.

Ansawdd aer yng Nghymru

Huw Brunt, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Joseph Carter, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint

 

Cofnodion:

3.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch effaith ansawdd aer ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

 

3.2     Cytunodd Mr Huw Brunt, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, i roi copïau i'r Pwyllgor o'r adroddiadau y cyfeiriodd atynt yn ei dystiolaeth.

 

 

4.

Papur(au) i'w nodi

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf.

Cofnodion:

5.1     Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 6.

 

(11.30-12.00)

6.

Ôl-drafodaeth breifat: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

6.2     Cytunodd y Pwyllgor:

-   ysgrifennu at Weinidogion perthnasol Cymru, Cyngor Sir Caerffili, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Changhellor y Trysorlys i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag ansawdd aer yng Nghymru;

-   paratoi adroddiad ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ohebiaeth uchod; a

-   gofyn am drafodaeth lawn ar ansawdd aer yng Nghymru.