Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/09/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15-09.30)

1.

Rhag-gyfarfod - PREIFAT

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.

 

(09.30-11.00)

3.

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 1

Michael Radford, Darllenydd mewn Cyfraith Lles Anifeiliaid a Chyfraith Gyhoeddus - Prifysgol Aberdeen

Yr Athro Ron Beadle, Athro mewn Trefniadaeth a Moeseg Busnes - Prifysgol Northumbria

Dr Rebekah Humphreys, Darlithydd mewn Athroniaeth - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ron Beadle, Athro Trefniadaeth a Moeseg Busnes, Prifysgol Northumbria; Dr Rebekah Humphreys, Darlithydd mewn Athroniaeth, Prifysgol y Drindod Dewi Sant; Michael Radford, Darllenydd mewn Cyfraith Lles Anifeiliaid a Chyfraith Gyhoeddus, Prifysgol Aberdeen.

 

 

 

(11.00-11.10)

4.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

4.1

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru: Brandio a Phrosesu Bwyd

Dogfennau ategol:

4.2

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar bolisïau a chynigion yn ymwneud â llygredd plastig a gwastraff deunydd pecynnu

Dogfennau ategol:

4.3

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiadau’r Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Llywydd - Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd - egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol.

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Fframweithiau Polisi Cyffredin y DU

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6, 7, 8, 9 a 10

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6, 7, 8, 9 a 10.

 

6.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

7.

Ystyried Adroddiad drafft y Pwyllgor ar Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.

 

8.

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i benodi hwylusydd allanol ar gyfer gwaith ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 - 2040.

 

9.

Cynllunio ar gyfer gwrandawiad cyn penodi - Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dull gweithredu o ran y Gwrandawiad cyn penodi a chytunodd arno.

 

10.

Ystyried Adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus: adfer bioamrywiaeth.

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.